CANOLFAN BUSNES CEREDIGION


Beth yw Canolfan Busnes Ceredigion?
Mae Canolfan Busnes Ceredigion yn darparu cyngor a chyfarwyddyd di-duedd yn rhad ac am ddim i fusnesau yng Ngheredigion. Mae'r ganolfan yn cynnig offer a chyfarpar cyfoes ynghyd â dewis o ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, seminarau a hyfforddiant technoleg gwybodaeth ac mae cyfleusterau cynadledda fideo hefyd ar gael.


Beth yw hanes y lle?
Mae Canolfan Busnes Ceredigion wedi bod wrthi yn cynnig gwasanaethau i fusnesau yng Ngheredigion ers 1990. Mae gan aelodau staff y ganolfan brofiad helaeth o gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor ar gychwyn, ehangu a datblygu busnesau. Cynigir seminarau rheolaidd i bobl sy'n cysidro dod yn hunan-gyflogedig, cynigir gwasanaeth ymgynghorwr pob cam o'r cyfnod cyn cychwyn busnes i'r cyfnod ehangu busnes ac mi ellir estyn cymorth ar adolygu perfformiad busnes yn drylwyr.