CERDDED ARFORDIR CEREDIGION...
-
PWYSIG:
Er bod trywydd mewn defnydd sy'n cysylltu'r Mwnt ag Aberteifi (sylwch ar dudalen 'Y Llwybrau') - nodwch nad yw'r trywydd go iawn mewn defnydd oherwydd achos cyfreithiol.
CYSYLLTU'R TLYSAU...
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn creu cyswllt rhwng llu o adnoddau amgylcheddol, naturiol a hanesyddol un o'r rhannau prydferthaf o arfordir Cymru:- Ardal Cadwraeth Arbennig yr Afon Teifi gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glannau'r Teifi a Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghilgerran;
- Y traeth a'r arfordir o gwmpas y Mwnt sydd o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gydag eglwys hanesyddol y Drindod gerllaw;
- Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ac Arfordir Treftadaeth Morol Ceredigion sy'n fyd enwog am eu dolffiniaid, llamidyddion a morfilod;
- Traethau gwobrwyedig pentrefi glanmôr prydferth Aberporth; Tresaith a Llangrannog;
- Tiroedd ysblennydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn nhraeth Penbryn, yng Nghwmtydu ac ar Ynys Lochtyn;
- Y Cei Newydd a'r Cei Bach gerllaw - sy'n enwog am eu cysylltiadau â Dylan Thomas arferai fyw ac ysgrifennu yn y fro;
- Aberaeron - ble mae un adeilad ymhob pedwar wedi ei restru fel un sydd o arwyddocâd pensaerniol neu hanesyddol arbennig. Mae llwybr troed a beicio yn arwain o Aberaeron i gyfeiriad eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron;
- Pentrefi arfordirol croesawgar tebyg i Aberarth, Llanon, Llansantffraid a Llanrhystud;
- Aberystwyth - cartref coleg cyntaf Prifysgol Cymru ac, wrth gwrs, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Aberystwyth yw'r dref fwyaf ar arfordir gorllewinol Cymru;
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol Aber yr afon Dyfi yn yr Ynyslas, ger y Borth, a'r unig ardal BIOSFFER yng Nghymru.
LLYFR CANLLAW - LLWYBR ARFORDIR CEREDIGION
Mae'r llyfr canllaw dwyieithog, 240 tudalen llawn lliw, ar gael drwy'r post oddi wrth Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion.
Cewch fanylion llawn am y gwasanaeth archebu llyfrau drwy'r post - ynghyd â ffeiliau PDF yn disgrifio'r llyfrau ac yn cynnig ffurflen archeb - ar dudalen cerdded prif wefan twristiaeth Ceredigion.
Y CYNLLUN "CAB-A-BAG"
Dyfeisiwyd cynllun Cab-a-Bag i gynorthwyo pobl sydd am gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion ond nad ydynt am gario bagiau trwm o le i le bob dydd. Beth sy’n haws na bwcio Cab o blith rhestr o gwmnïau tacsi a threfnu i’ch Bag gael ei gasglu a’i drosglwyddo i’r llety nesaf?
Pe byddech am gyrraedd Ceredigion trwy ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus, medrech ddefnyddio’r cynllun Cab-a-Bag i drefnu bod tacsi yn eich casglu o’r bws neu’r trên ar ôl i chi gyrraedd ac yn eich cludo i lety ar gyfer eich arhosiad noson gyntaf. Medrech drefnu ymlaen llaw fod tacsi yn cludo’ch bagiau o le i le o ddydd i ddydd tan i chi gerdded y llwybr cyfan!
Mae pob uned llety sydd ar gynnig o dan y cynllun hwn wedi ei archwilio yn unol â safonau gwasanaeth Croeso Cymru'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn cydymffurfio â gofynion y cynllun “Croeso i Gerddwyr”.
Mae pob un o gwmnïau tacsi cynllun Cab-a-Bag wedi eu trwyddedu gan Gyngor Sir Ceredigion.
Cewch mwy o fanylion am y cynllun Cab-a-Bag yn y daflen PDF hon.
Mae cynllun Cab-a-Bag wedi derbyn cyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir yn ei dro gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Nodwch fod y broses o godi arwyddbyst o'r newydd mewn nifer o fannau ar Lwybr yr Arfordir yn digwydd ar hyn o bryd. Gall fod anmbell i ddarn ble nad yw'r gwaith wedi ei gwblhau eto.