LLETY ADDAS I BYSGOTWYR YN ARDAL CEREDIGION

Er mwyn bod yn rhan o gynllun arloesol 'Croeso i Bysgotwyr' Ceredigion, rhaid bod gwestai, tai gwely a brecwast a llety hunan-ddarpar wedi derbyn archwiliad llwyddiannus naill ai gan Croeso Cymru neu’r AA ac yna wedi tystio eu bod yn cynnig y cyfleusterau canlynol:

MYNEDIAD 24 AWR

  • Cyfarpar gwneud te/coffi
  • Cyfleusterau sychu dillad ac esgidiau
  • Lle i storio offer pysgota
  • Defnydd oergell/rhewgell arbennig ar gyfer storio abwyd a physgod wedi eu dal
  • Blwch cymorth cyntaf ynghyd â manylion ar gyfer y meddyg, deintydd ac ysbyty agosaf
Dylid arddangos manylion am y siop offer pysgota agosaf a’r lle agosaf i brynu trwyddedau; copi o lyfryn Tablau Llanw Ceredigion ynghyd â manylion am dywyswyr pysgota lleol - os cynigir y gwasanaeth hwnnw.

Yn ogystal, mae pob llety yn cael ei argymell i baratoi Datganiad Hygyrchedd i’r Anabl ac os ydyw, dylid cynnig gwybodaeth am gyfleon pysgota lleol i’r anabl. Dylai ymwelwyr wneud yn siwr bod y cyfleusterau yn addas ar gyfer eu hanghenion arbennig cyn bwcio.

Mae’r cynllun hefyd yn argymell y dylai:

  • Llyfrau a thaflenni yn cynnwys gwybodaeth am bysgota lleol fod ar gael yn y llety;
  • Pibell ddwr fod ar gael er mwyn golchi offer a dillad, yn enwedig os yn darparu llety ar gyfer pysgotwyr môr.

DIM MYNEDIAD 24 AWR

Noder nad yw llety Addas i Bysgotwyr yng Ngheredigion sy’n arddangos y symbol hwn yn darparu llety ar gyfer y rheini sy’n pysgota yn ystod y nos gan ddychwelyd i’r llety yn oriau mân y bore.