ABERAERON...

Mae un ty ymhob pedwar yn Aberaeron wedi ei restru fel un sydd o bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol.

Lle Arbennig...

Deillia hynodrwydd pensaernïol Aberaeron o'r ffaith ei bod yn un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gael ei chynllunio o'r cychwyn. Clerigwr lleol, o'r enw Alban Jones-Gwynne, gafodd y syniad o sefydlu porthladd wrth geg yr afon Aeron. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwireddwyd ei freuddwyd.

Hwyliau'n dal i godi yma hefyd...

Ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif 'roedd Aberaeron yn borthladd masnachol llewyrchus. Erbyn heddiw, mae'r harbwr lliwgar yn drysor o le ac yn frith o longau hwylio a physgota. Mae Clwb Hwylio Aberaeron gyda'r mwyaf poblogaidd a gweithgar yng Ngheredigion.

Cyfoeth gwledig tu cefn...

O ddilyn yr afon Aeron tua'r dwyrain o Aberaeron cewch fwynhau un o ddyffrynoedd harddaf Ceredigion.

Mae llwybr y medrwch ei gerdded, ei ddefnyddio ar gefn beic neu mewn cadair olwyn, yn arwain i gyfeiriad eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron. Mae'r Ymddiriedolaeth gan arfer yn cynnig gostyngiad pris mynediad i bobl sydd naill ai wedi cerdded neu gyrraedd Llanerchaeron ar gefn beic.

Petasech am gerdded llwybr hir, mae'r llwybr yn arwain ymlaen o Lanerchaeron trwyddo i Giliau Aeron a Thalsarn gan arwain bob cam draw i Ddyffryn Teifi yn Llanbedr Pont Steffan. Nodwch nad yw'r llwybr hir yn addas ar gyfer beicio na chadeiriau olwyn.

Crefftau a chynnyrch...

Mae Aberaeron yn ganolfan siopa boblogaidd gogyfer â Dyffryn Aeron a'r pentrefi arfordirol o gwmpas. Cewch lu o nwyddau lleol ar werth yn y siopau bychain ac ystod dda o grefftau yng Nghanolfan Crefftau Clos Pencarreg.

Lleolir Canolfan Croeso Ceredigion yn Aberaeron ar ben y cei gogleddol ac ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.

Llety a Map...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.

Cliciwch yma am fap A4 o Aberaeron ar ffurf PDF.