ABERPORTH...

Mae Aberporth a'i draethau euraidd, yn un o bentrefi glan môr prydferthaf Bae Ceredigion.

Croeso sy'n eich disgwyl...

Yn Aberporth byddwch yn siwr o ganfod croeso twymgalon gan bobl sydd yn rhannu eich gwerthfawrogiad o brydferthwch yr ardal.

Mae yna agosatrwydd yn oerthyn i Aberporth ac mae'r dreflan yn cynnig ystod go sylweddol o gyfusterau o ystyried cyn lleied yw'r boblogaeth. Mae llawer o'r farn bod Aberporth yn ganolfan hwylus tu hwnt i aros ynddi gogyfer â mwynhau teithio i ardaloedd eraill Ceredigion, y Canolbarth a Phenfro.

Llai na hanner awr o siwrne yw hi mewn car modur o Aberporth i dref Aberteifi - tu hwnt mae mynyddoedd y Preselau ac arfordir Penfro neu. at y tir amwr, dyffryn godidog y Teifi.

Cerdded Arfordir Ceredigion...

Mae Aberporth ar Lwybr Arfordir Ceredigion ac mae'n siwrne cymharol hawdd i gerdded yn syth at y pentref nesaf tua'r gogledd - Tresaith. Mae darn o Lwybr yr Arfordir ar gyrrion Abeproth yn hwylus ar gfyer cadeiriau olwyn.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.