ABERYSTWYTH...

Ffurfiwyd tref Aberystwyth dros saith gan mlynedd yn ôl pan gyflwynodd y Brenin Edward y cyntaf siartr i greu bwrdeistref. Mae Llanbadarn Fawr, wrth ymyl Aberystwyth, yn dreflan ag iddi lawer hirach hanes sefydlog ar y dreftadaeth Geltaidd.

Lleoliad penigamp...

Amgylchynir Aberystwyth ar y tir mawr gan ardaloedd cefn gwlad gyda'r prydferthaf ym Mhrydain - Cwm Rheidol, mynyddoedd Pumlumon, heb sôn am Arfordir Treftadaeth Ceredigion a chasgliad o draethau gyda'r mwyaf mwyaf gwobrwyedig ym Mhrydain.

Cefndir hanesyddol...

Tu ôl i'r dref, tua'r de, mae olion hen, hen fryngaer o'r oesoedd cynharaf. Mewn oesoedd mwy diweddar, sefydlwyd castell cyntaf gan y Normaniaid yn y cyffiniau wrth ymyl hen geg yr afon Ystwyth. Fodd bynnag, symudwyd yr amddiffynfa at y safle ble gwelir adfeilion y castell yn awr - sef i'r gogledd o geg yr afon Rheidol.

Dadleuodd yr academydd Leopold Kohr, awdur "Is Wales Viable?" bod Aberystwyth yn dal yn enghraifft dda o ddinas-wladwriaeth.

Diwylliant...

Er mai o ymgais i ymdawelu ar Gymry a Chymreictod y mae hanes Aberystwyth yn deillio, tyfodd yn ganolfan rhai o sefydliadau gyda'r Cymreiciaf a phwysicaf ein cenedl. Mae Aberystwyth heddiw yn gyrchfan bwysig ac, yn ôl llawer, yn brifddinas Cymru yn y meysydd diwylliannol.

Yma yn Aberystwyth sefydlwyd ysgol Gymraeg gyntaf Cymru a choleg cyntaf Prifysgol Cymru. Erbyn hyn mae Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth hefyd yn cynnwys Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru a Sefydliad Gwyddorau Gwledig Cymru.

Yma hefyd saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn cartrefu miliynau o lyfrau a llawysgrifau gwerthfawr, yn eu plith "Llyfr Du Caerfyrddin" y cyhoeddiad cynharaf yn yr iaith Gymraeg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd storiwyd rhai o drysorau pwysicaf Prydain Fawr mewn ogofeydd o dan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae nifer o gyrff a mudiadau cenedlaethol eraill â'u pencadlys yn Aberystwyth, mae'r rhain yn cynnwys:
  • Urdd Gobaith Cymru;
  • Undeb Amaethwyr Cymru;
  • Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru;
  • Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg;
  • Cymdeithas Y Dysgwyr;
  • Cymdeithas y Cobiau a'r Merlod Cymreig;
  • Menter a Busnes;
  • Y Ganolfan Astudiaeth Perfformio;
  • Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd;
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Digon i'w wneud...

Ar ymweliad ag Aberystwyth, yn ogystal ag ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol, medrwch hefyd fwynhau pleserau rhai o atyniadau a chyfleusterau arall yr ardal:

  • Amgueddfa Ceredigion;
  • Trên Bach Pontarfynach;
  • Trên Bach Craig Glais;
  • Amgueddfa'r Diwydiant Mwyn ac Arian yn Llywernog;
  • Canolfan y Goedwig yn Nant yr Arian (ble mae cyfle dyddiol i wylio bwydo barcutiaid);
  • Canolfan Beicio Mynydd Nant Yr Arian
  • Pwerdy Cwm Rheidol;
  • Eglwys Llanbadarn Fawr a'i chysylltiad â Dafydd ap Gwilym;
  • Orielau Arddangos Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Mae Canolfan Croeso Aberystwyth yn Rhodfa'r Môr, cewch fynediad rhad ac am ddim i Amgueddfa Ceredigion o'r un adeilad.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.

Llety a Map...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.

Cliciwch yma am fap A3 o Aberystwyth ar ffurf PDF.