Gweithgareddau Hamdden yng Ngheredigion...


Gyda Bae Ceredigion tua'r gorllewin a Mynyddoedd y Cambria tua'r dwyrain, mae tirwedd Ceredigion yn cynnig ystod eang o gyfleon gogyfer â nifer o weithgraeddau hamdden pleserus.

Mae porthladdoedd bychain Ceredigion, fel Aberystwyth, Aberaeron, y Cei Newydd ac Aberteifi, oll yn cynnig cyfleusterau gogyfer â chychod hwylio ac mae cyfleusterau ar gyfer lansio a glanio cychod bychain ar gynnig mewn nifer ychwanegol o bentrefi arfordirol.

Ewch i'r dudalen hon am fanylion busnesau a grwpiau sydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer mwynhau:

  • BYWYD GWYLLT
     
  • CERDDED
     
  • CHWARAEON DŴR
     
  • GWEITHGAREDDAU CEFN GWLAD
     
  • CANOLFANNAU GWEITHGAREDD
     
  • SAFLEOEDD O DDIDDORDEB ARBENNIG
     
  • ATYNIADAU POBLOGAIDD ERAILL
     

Rhai o'r diddordebau sydd yn denu degau o filoedd i ymweld â Cheredigion yn flynyddol yw pysgota , cerdded, beicio a chwarae golff:

PYSGOTA...

Mae menter 'Croeso i Bysgotwyr' Ceredigion yn cynnig ystod eang o lety o safon sydd wedi ei wirio gan swyddogion Croeso Cymru (Bwrdd Croeso Cymru gynt) ac sy'n cynnig cyfleusterau arbennig ar gyfer pysgotwyr. Mwy o fanylion....

CERDDED...

O'i lwybrau arfordirol hyd ei rwydwaith o lwybrau gwledig, mae Ceredigion yn cynnig rhai o'r profiadau mwyaf pleserus yng Nghymru ar gyfer cerddwyr. Mwy o fanylion.....

BEICIO...

Mae beiciwyr mynydd o bedwar ban byd yn tyrru i Ganolfan Nant yr Arian sydd yn cynnig rhai o lwybrau beicio mynydd mwyaf diddorol Cymru. Ar yr un pryd, mae pobl a theuluoedd sydd yn hoffi beicio ychydig mwy hamddenol yn mwynhau dilyn y teithiau tawel sydd yn rhan o rwydwaith Canolfannau Gwyliau Beicio Cymru yng Ngheredigion. Mwy o fanylion.....

GOLFF...

Mae Ceredigion yn cynnig ystod gystadleuol dros ben o gyrsiau golff gan amrywio o gyrsiau dolydd i linciau arfordirol sydd yn cynnig golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion. Cewch fanylion am brif gyrsiau golff Ceredigion yn y daflen PDF hon.