Traethau Enwog Ceredigion...
Am ystadegau Llanw a Thrai ewch yma.
Mae gan Geredigion rhai o'r traethau gorau ym Mhrydain, i gyd ar lannau Arfordir Treftadaeth yn edrych allan at Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion ble mae dolffiniaid gwyllt i'w gweld yn feunyddiol o'r bron.
|
Gwobr Glan Môr 2012 |
Gwobr Afordir Gwyrdd 2012 |
Baner Las 2011 |
Swyddogion Traeth | |
|
| |||
|
|
| ||
![]() |
|
| ||
|
| |||
|
| |||
|
| |||
|
| |||
|
|
| ||
|
| |||
|
| |||
|
| |||
|
|
| ||
![]() |
| |||
|
| |||
|
|
|
GWOBRAU GLAN MÔR...
Derbyniodd PYMTHEG traeth yng Ngheredigion Wobr Traeth Glan Môr y Deyrnas Unedig ar gyfer 2012. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
GWOBRAU YR ARFORDIR GLAS...
Datblygwyd Gwobr Yr Arfordir Glas - ar gyfer traethau gwledig - gan Bartneriaeth y Môr Glas yma yng Nghymru. Dyfarnwyd SAITH traeth o Geredigion yn deilwng o'r wobr ar gyfer 2012. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
GWOBRAU'R FANER LAS...
Dyfarnwyd PUMP o draethau Ceredigion yn deilwng i chwifio Baner Las ar gyfer 2011. Cewch mwy o fanylion am y cynllun hwn ar wefan Cadw Cymru'n Daclus
RHIENI PLANT O OED YSGOL:
Bydd Cyngor Sir Ceredigion gan arfer yn sicrhau gwasanaeth dyddiol Swyddogion Traeth ac Achub Bywyd ar y traethau mwyaf prysur dros gyfnod defnydd brig gwyliau haf ysgolion. Ers 2009 mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig gan yr RNLI. Mae'r Swyddogion Traeth yn gosod baneri i ddynodi "Ardal Nofio o dan Oruchwyliaeth". Nodir y traethau ble mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y symbol:
PERCHNOGION CŴN:
Mae Ceredigion yn croesawu perchnogion cŵn cyfrifol. Mae'n bosibl i berchenog ci anwes fwynhau cwmni'r ci ar y rhan fwyaf o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion gydol y flwyddyn.Dylid nodi fod isddeddfau'n mynnu fod cŵn anwes yn cael eu cadw ar dennyn ar y rhan fwyaf o ardaloedd promenād ac ar strydoedd glan môr werth ymylon traethau Ceredigion trwy gydol y tymor ymdrochi.
Cewch fanylion llawn ar ardaloedd ble ganiateir a gwaharddir cŵn ar draethau yng Ngheredigion ar y dudalen hon.