| Aberaeron | Aberporth | Aberteifi | Aberystwyth | Llanbedr Pont Steffan | Llandysul |
| Llangrannog | Pontarfynach | Tregaron | Tresaith | Y Borth | Y Cei Newydd |
ABERTEIFI...
Amgylchedd arbennig...
Dynodir Dyffryn Teifi yn Ardal Gadwraeth Arbennig tra bod Bae Ceredigion tu hwnt i'r aber hefyd wedi ei ddynodi yn Ardal Gadwraeth Arbennig.Mae Arfordir Treftadaeth Ceredigion yn ymestyn i'r gogledd o geg aber y Teifi tra bod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn arwain tua'r de o geg yr aber.
Cysylltir Tref Aberteifi â Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru, ar gyrrion Cilgerran, trwy gyfrwng llwybr addas at gadeiriau olwyn, beicwyr a cherddwyr. Mae'r llwybr yn dilyn gwely hen reilffordd ac yn arwain ar draw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glan Teifi.
Digon i'ch diddori...
Mae Aberteifi yn cynnig adnoddau hamdden bendigedig o dan dô a hefyd Theatr Mwldan - sydd yn cynnig adloniant o safon trwy gydol y flwyddyn. Cewch fanylion llawn ar y tudalennau digwyddiadau.Yn ogystal ag oriel arddangos a bwyty, mae Canolfan Croeso Aberteifi hefyd wedi ei lleoli yn Theatr Mwldan. Mae'r theatr a'r Ganolfan Croeso ar agor gydol y flwyddyn.
Trysorfa o ran cerdded...
Mae ardal Aber y Teifi yn cynnig pum cylchdaith gerdded sydd yn eich tywys o gwmpas rhannau o Lwybr Arfordir Parc Cenedlaethol Penfro, Llwybr Arfordir Ceredigion, Ardal Gadwraeth Arbennig Dyffryn Teifi - gan gynnwys Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glan Teifi. Mae'r llwybrau yn galw ym mhentrefi hanesyddol er enghraifft Llandudoch - ble gewch ymweld ag adfeilion yr abaty, a Chilgerran gyda'i gastell enwog.Cewch fanylion llawn ar y tudalennau cerdded.
Hanes unigryw..
Yma yn Aberteifi 'roedd castell Rhys ap Gruffydd - yr olaf o linach Rhys ap Tewdwr i deyrnasu'n annibynnol dros dalaith Deheubarth. Yn ei gastell yma yn Aberteifi, yn y flwyddyn 1176, y cynhaliodd Rhys yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf. Ymwelodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ag Aberteifi ym 1976 i ddathlu wyth can mlwyddiant eisteddfod gyntaf Rhys.Er mai adfeilion oedd llawer o adeiladwaith mewnol y castell diweddaraf i gael ei adeiladu yn Aberteifi, mae ei furiau allanol yn aros o hyd i'n atgoffa mor allweddol bwysig oedd y safle mewn amseroedd cynt. Bu brwydro ffyrnig a gwaedlyd wrth y groesfan hon llawer i dro. Mae adfeilion y castell bellach mewn meddiant cyhoeddus a gwaith adfer yn bwrw rhag blaen. Byddir yn caniatáu i'r cyhoedd ddilyn gwibdaith o gwmpas yr adfeilion o bryd i'w gilydd.
Aberteifi yw lleoliad Cysegrfan Cenedlaethol Cymru yr Eglwys Gatholig - Mair o Aberteifi.
Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded, beicio a physgota.
Llety a Map...
Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.Cliciwch yma am fap A4 o dref Aberteifi ar ffurf PDF.