Beicio yng Ngheredigion...

Canolfannau Gwyliau Beicio Cymru yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn cynnig tair Canolfan Gwyliau Beicio Cymru: un yn seiliedig ar ardal Aberteifi; un yn seiliedig ar ardaloedd Aberaeron a'r Cei Newydd a'r drydedd yn seiliedig ar ardaloedd Tregaron a Llanbedr Pont Steffan.

Mae pob un o Ganolfannau Gwyliau Beicio Cymru yn cynnig ystod o gylchdeithiau beicio diddorol sydd wedi eu cynllunio i gynnig:

  • Cylchdeithiau wedi eu harwyddo ac yn addas at ystod eang o feicwyr, hen ac ieuanc;
  • Cylchdeithiau sydd yn ymweld â mannau diddorol;
  • Mapiau hawdd i'w dilyn ac sydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac y medrir eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Medrwch hefyd brynu becynnau o Ganolfannau Croeso a siopau llyfrau.

Ewch i'r dudalen hon i ganfod adnoddau PDF rhad ac am ddim ynghyd ag ystod o ddefnyddiau eraill o ddefnydd i feicwyr.

I ddysgu mwy am Ganolfannau Gwyliau Beicio mewn ardaloedd eraill yng Nghymru ewch i wefan: www.GwyliauBeicioCymru.com

Llwybr Ystwyth

Agorir Llwybr Ystwyth yng Ngorffennaf 2008 gan gysylltu Aberystwyth, ar lan Bae Ceredigion, â Thregaron ym mhegwn gogleddol Dyffryn Teifi.

Mae darnau helaeth o Lwybr Ystwyth yn dilyn trywydd yr hen reilffordd arferai gysylltu Aberystwyth â Chaerfyrddin. Mae'r darnau hyn gan arfer ar y gwastad ac yn arbennig o hwylus ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn a beicwyr yng nghwmni plant ieuanc iawn. Mae caniatâd i farchogaeth hefyd ar ddarnau helaeth o Lwybr Ystwyth ac, wrth gwrs, mae'r lôn yn gyfan gwbl addas ar gyfer cerddwyr.

Mae Llwybr Ystwyth yn creu cysylltiad strategol pwysig rhwng nifer o lonydd cerdded a beicio eraill yng Ngheredigion. Bydd yn creu cysylltiad rhwng Aberystwyth â lonydd Canolfan Gwyliau Beicio Tregaron a Llanbed ac yn pontio Lôn Cambria a Lôn Teifi - dwy lôn feicio genedlaethol rhwydwaith Sustrans (lonydd 81 a 82). Bydd hefyd yn cynnig modd i gyrraedd Lôn Beicio Rheidol o Ddyffryn Teifi.

At ddant cerddwyr, bydd Llwybr Ystwyth yn cysylltu Dyffryn Teifi â Llwybr Arfordir Ceredigion ac yn darparu llwybr yn ôl i'r arfordir i gerddwyr fyddent yn dewis dilyn y llwybr llinynnol rhwng y Borth â Thregaron (llwybr sydd yn galw ym Mhontarfynach, Cwm Ystwyth, Pontrhydygroes a Phontrhydfendigaid).

Lôn Beicio Rheidol

Mae Lôn y Rheidol yn cysylltu Aberystwyth â Phontarfynach, taith 28km. Mae darnau cychwynnol y daith ar lwybrau beicio oddi ar y ffordd fawr a'r gweddill yn dilyn lonydd cefn gwlad cymharol dawel o ran traffig.

Ewch i'r dudalen hon am daflen PDF sy'n disgrifio Lôn y Rheidol.

Canolfan Beicio Mynydd Nant Yr Arian

Mae Canolfan Beicio Mynydd Nant Yr Arian gyda'r goreuon o Ganolfannau Beicio Mynydd Cymru. Mae'r ganolfan ar yr A44 i'r dwyrain o Aberystwyth. Mae Nant Yr Arian yn cynnig tair cylchdaith gynhyrfus: yr enwog Lôn Syfydrin Continental Tyres,

 sydd yn dringo dros 35km drwy ddarnau o ucheldiroedd mwyaf prydferth Cymru; Lôn Pendam (9km) a Lôn Summit (16km).

Noder fod y Ganolfan Ymwelwyr â'r Goedwig yn Nant Yr Arian yn cynnig profiadau gogyfer â'r teulu oll trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â'r llwybrau beicio mae yno faes parcio ceir (am dâl), lwybrau cerdded, bwyty, maes chwarae i blant ieuanc, llwybr cylch ar y gwastad gogyfer â phobl mewn cadeiriau lowyn, a chyfleusterau gwylio adara - byddir yn bwydo Barcutiaid Cochion bob prynhawn o'r flwyddyn.

Ewch i'r dudalen hon i ganfod taflen PDF sydd yn cynnig mapiau o lwybrau beicio mynydd Nant yr Arian.