| Aberaeron | Aberporth | Aberteifi | Aberystwyth | Llanbedr Pont Steffan | Llandysul |
| Llangrannog | Pontarfynach | Tregaron | Tresaith | Y Borth | Y Cei Newydd |
PONTARFYNACH...
Enwog deirgwaith drosodd...
Mae pentref Pontarfynach yn fyd-enwog, teirgwaith drosodd, am:- ei dair pont, un wrth ben y llall;
- y trên bach sydd yn dringo ato drwy Cwm Rheidol o Aberystwyth;
- rhaeadrau arswydus yr afon Mynach.
Y pontydd a'r rhaeadrau...
Nodwedd enwocaf a digyffelyb Pontarfynach, wrth gwrs, yw'r pontydd - tair ohonynt, un wedi ei adeiladu yn union uwchben y llall. Credir mai mynachod Sistersaidd Ystrad Fflur fu'n gyfrifol am adeiladu'r cyntaf ohonynt ac i'r nesaf gael ei hadeiladu gan Farchogion y Deml. Adeiladwyd y bont a ddefnyddir heddiw gan y Cyngor Sir yn ystod y ganrif hon.Mae llwybrau yn arwain o gwmpas y rhaeadrau naill ochr i'r pontydd, rhaid talu am ddefnyddio'r llwybrau hyn. Dylid sicrhau gwisgo esgidiau cryfion cymwys i'w cerdded, 'run fath â llwybrau eraill. Mae'r llwybr hiraf - sydd hefyd y mwyaf serth - yn arwain i lawr bob cam at wely'r dyffryn ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o'r rhaeadrau uchaf. Cofiwch, fodd bynnag, bod rhaid dringo'r llwybr bob cam yn ôl ac i fyny at Bontarfynach eto. Nid pawb sydd yn sylweddoli, wrth ddisgyn, bod dringfa serth yn eu disgwyl eto i ddychwelyd. Nid yw'r llwybr hiraf hwn yn addas ond ar gyfer pobl sydd yn holliach a heb unrhyw anhawster i gerdded.
Er bod angen gofal wrth ei gerdded, nid yw'r ail lwybr, ar ochr ddwyreiniol y pontydd, gyn hired nac ychwaith mor serth â'i bartner. Mae'r llwybr hwn yn cynnig cyfle i syllu'n agos ar yr hafnau naddwyd o'r graig gan y dyfroedd chwim. Cewch olwg agos ar y pontydd hefyd.
Y Lein Fach...
Mae'r lein fach yn dringo dros 600 troedfedd yn dymhorol o Aberystwyth ar siwrnai 12 milltir i Bontarfynach. Mae'r siwrnai awr yn arwain drwy olygfeydd ysblennydd o Gwm Rheidol. Ar gyrraedd Pontarfynach - neu Aberystwyth, yn ô eich man cychwyn - medrwch ddal y trên nesaf yn ôl neu fwynhau edrych o gwmpas ychydig.
Cerdded a Beicio Mynydd...
Heblaw am y llwybrau o gwmpas y pontydd, mae nifer sylweddol o lwybrau cerdded eraill yn yr ardal Pontarfynach, llawer ohonynt ar dir y Comisiwn Coedwigaeth ac wedi eu datblygu ar gyfer y cyhoedd. Dros y mynydd tua'r dwyrain mae Llwybrau Hafod Uchtryd o gwmpas hen ystâd Thomas Johnes - un o "wellhawyr" mwyaf goleuedig ei oes.Mae un o Ganolfannau Beicio Mynydd gorau Cymry ar dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru gerllaw yn Nant Yr Arain. Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.