GWYBODAETH AR GYFER PERCHNOGION CŴN...
Ag eithrio dau draeth, mae'n bosibl i berchnogion cŵn fwynhau cwmni eu hanifeiliaid anwes ar y rhan fwyaf o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion gydol y flwyddyn. Ar y rhan fwyaf o'r traethau mwyaf poblogaidd mae yna ardaloedd wedi eu neilltuo ar gyfer cŵn a'u perchnogion tra bod gwaharddiad rhag mynd â chŵn ar ardaloedd cyfagos o'r traethau hynny rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi.
Dylai perchnogion cŵn anwes nodi fod holl draethau Ceredigion wedi eu cofrestru o dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 ac mae'n drosedd - gyda dirwy o i fyny hyd at £1,000 - i beidio â chodi'r baw ar ôl i'ch ci faeddu.
Ni waherddir cŵn tywys ar gyfer y deillion.
Mae'r traethau ag arnynt ardaloedd ble mae cŵn yn cael eu gwahardd - ochr yn ochr ag ardaloedd ble mae cŵn yn cael eu derbyn - i'w canfod ar y traethau canlynol:
|
TRAETH
|
MANYLION
|
MAP
|
|
ABERAERON:
|
Traeth y De, rhwng y grwyn i'r de i Rodfa'r Traeth a muriau'r harbwr rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
ABERPORTH:
|
Gwaherddir cŵn rhag Traeth Dolwen rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
ABERYSTWYTH - Traeth y De:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag y traeth i'r de o Pentir y Castell hyd at y grwyn cyntaf ym mhen Rhes y Rô Fawr. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
ABERYSTWYTH - Traeth y Gogledd:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag y traeth rhwng ochr ogleddol y lanfa cychod a phen mwyaf gogleddol y traeth wrth odre Craig Glais. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
Y BORTH:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag y traeth sydd i'r gogledd o'r llithrfa wrth orsaf y Bâd Achub hyd at bwynt ar y traeth gyferbyn â'r Hostel Ieuenctid ar y Stryd Fawr. O'r 1af Ebrill 2008 ymestynwyd ardal y gwaharddiad i gynnwys y treaeth i'r de o'r llithrfa hyd at y clogwyni hyd at bwynt gyferbyn â'r annedd elwir Redroofs. Gweithredir y newidiad hwn o'r 1af Mai 2008.
(Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
CLARACH:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag yr ardal o'r traeth sydd gyferbyn â'r morglawdd. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
LLANGRANNOG:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag yr ardal o'r traeth sydd rhwng Nant Hawen a Phen Rhip. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
Y CEI NEWYDD:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag yr ardal o Draeth yr Harbwr sydd rhwng y Pier a Phenpolion. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
TRESAITH:
|
Rhwng y 1af o Fai a'r 30ain o Fedi gwaherddir cŵn rhag rhan ddeheuol y traeth rhwng y grisiau wrth y fynedfa a Carreg-y-Ddafad. (Gweler y map am ddisgrifiad gweledol o'r union ardal)
|
|
|
Gwaharddir cŵn rhag dau draeth, mwy neu lai yn gyfangwbl, rhwng y 1af Mai a'r 30ain Medi, sef traethau sydd o dan rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn:
|
|
|
Y MWNT:
|
Ardal y traeth yn gyfangwbl
|
|
|
PENBRYN:
|
Ardal y traeth yn gyfangwbl
|
|