LLANBEDR PONT STEFFAN...

Mae tref marchnad Llanbedr Pont Steffan - neu Llanbed - yn enwog am Goleg Prifysgol Dewi Sant, y coleg prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ar wahân i Rydychen a Chaergrawnt.

Hen hanes dysg...

Mae lleoliad Coleg Prifysgol Dewi Sant, ynhyd â Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yng Ngheredigion yn parhau hir hanes dysg yn y fro ers dyddiau Eos y Seintiau a thraddodiad balch y mynachlogydd yn Ystrad Fflur a Llandudoch.

Cyfoeth materol hefyd...

Cloddiodd y Rhufeiniaid am aur gerllaw Llanbed ym Mhumsaint. Mae safle'r hen waith aur yn awr mewn meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'r safle - ynghyd â'r gweithfeydd o dan ddaear - ar agor i'r cyhoedd. 'Roedd hefyd gan y Rhufeiniaid wersyll yn Llanio, ar y ffordd o Lanbed i Dregaron. Yn wir mae aml i ffordd yn yr ardal hon wedi ei hadeiladu ar drywydd yr union ffyrdd adeiladwyd gan y Rhufeiniaid!

Tref farchnad go iawn...

Yn y ddeunawfed ganrif 'roedd Llanbed yn fan pwysig gogyfer â chasglu creaduriaid at ei gilydd i'w gyrru i farchnadoedd Lloegr bell gan y porthmyn. Mae marchnad anifeiliaid bwysig yn dal i fodoli yma ac mae'r dref yn gyrchfan bwysig i siop ynddi ar gyfer trigolion y dysenni o bentrefi sydd yn y cyffiniau.

Mae cefn gwlad fendigedig i'w mwynhau yn ardal Llanbed a physgota heriol ar yr afon Teifi gerllaw..

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.