LLANGRANNOG...

Pur anaml y dewch chi ar draws llyfr taith sy'n disgrifio Cymru heb fod ynddo lun o Langrannog.

Atgofion plentyndod...

Mae'r pentref hyfryd hwn wedi ei leoli ychydig i'r de o'r Cei Newydd, i'r gogledd o Dresaith.

Bu miloedd o blant Cymru yng Ngwersyll yr Urdd dros y blynyddoedd gan gerdded y llwybr uwchben prydferthwch unig Ynys Lochtyn i lawr i draeth y Cilborth neu i draeth y pentref.

Mae Gwersyll yr Urdd yn darparu cyfleusterau helaeth sydd ar gael at ddefnydd ymwelwyr yn ogystal â phobl sydd yn mynychu'r Gwersyll.

Mwy o gyfleon cerdded...

Mae llwybrau bendigedig i'w dilyn ar hyd Arfordir Treftadaeth Ceredigion yn yr ardal hon - â'r mwyaf godidog i fyny o draeth y pentref, tu ôl i draeth cuddiedig Cilborth ac o gwmpas Ynys Lochtyn - sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar gerdded a beicio.

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.