Y CEI NEWYDD...

Mae'r Cei Newydd yn dal yn un o fannau gwyliau mwyaf hoff filoedd ar filoedd o Gymry. Yn wir, mae treulio gwyliau yn y Cei yn rhan o draddodiad miloedd o deulu ers cenedlaethau.

Hwyliau'n dal i godi...

Bu galw'r môr yn gryf ar drigolion y Cei Newydd erioed. Bu meibion y Cei yn hwylio a chapteinio llongau mawr a bach ar bob môr o dan haul. Mae hwylio yn dal yn boblogaidd ofnadwy yn y Cei Newydd ac mae canolfan newydd yn cynnig hyfforddiant mewn hwylio, defnydd canw a nifer o sgiliau morol arall.

Dolffiniaid hefyd...

Ni ddaeth yr un ymweliad â Cheredigion i'w ben yn llwyddiannus heb fod ar drip allan i'r bae ar gwch o'r Cei Newydd. Cewch olygfeydd godidog o'r arfordir, wrth gwrs, ond ar ben hynny cewch fwynhau cwmni dolffiniaid a llu o greaduriaid prin arall sydd yn galw Bae Ceredigion yn gartref iddynt. Gwelir mwy o ddolffiniaid yn yr ardal hon nag yn unrhyw ardal arall ar Fae Ceredigion.

Dilyn Marlais....

'Roedd nifer o gysylltiadau teuluol rhwng Dylan Thomas â Cheredigion ond yr un hanesyddol â'r cysylltiad cryfaf o ran enw a'r bardd oedd ei hen ewythr. 'Roedd y Parchedig William Thomas, yn weinidog yr achos Undodaidd yn Llwyn Rhydowen, ger Llandysul, ar adeg cloi'r gynulleidfa honno allan o'i chapel gan dirfeddianwr creulon yn 1876. Enw barddol y Parchedig William Thomas oedd "Gwilym Marles" roddodd yr enw canol Marlais i Dylan.

Bu Dylan a'i deulu yn byw mewn nifer o fannau yng Ngheredigion ond tra bu'n byw ar gyrrion y Cei Newydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yr ysgrifenodd "Quite Early one Morning" y seiliwyd arni ei waith enwocaf "O Dan y Wenallt".

Medrwch ddilyn llwybr taith i olrhain hanes Dylan Thomas o gwmpas y Cei Newydd - cewch gopi arlein ar ffurf ffeil PDF yma. Gwyliwch allan am y ffilm newydd "Edge of Love" - gyda'r sêr Matthew Rhys, Keira Knightley a Sienna Miller yn ymddangos ynddi - fe'i ffilmiwyd yn ardal y Cei Newydd. Mae'r ffilm i'w rhyddhau yn y Deyrnas Unedig ar yr 20 Mehefin 2008.

Llety a Map...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.

Cliciwch yma am fap A4 o'r Cei Newydd ar ffurf PDF.