TREGARON...

Saif Tregaron ar lannau deheuol Cors Goch Glan Teifi - un o'r corsydd mwyaf o'u bath yn Ewrop. Mae'r gors yn warchodfa natur bwysig dros ben ac yn hafan i nifer o anifeiliaid a phlanhigion prin. Gwelir y Barcud yn hedfan dros y fro hon drwy gydol y flwyddyn.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron...

Llyn enfawr oedd Cors Caron, yn cael ei bwydo gan yr afon Teifi lifa i lawr o'r uchelderau uwchben Abaty Ystrad Fflur i'r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid.

Ar ddiwedd yr Oes Ia diwethaf toddodd rhewlif gan adael argae naturiol ar draws y dyffryn. Tu ôl i'r argae ffurfiwyd llyn ond llenwodd y llyn â phlanhigion a gwaddod. Tyfodd wyneb o fawn gan greu tair cromen amlwg sy'n codi'n uwch na gwely'r llyn gwreiddiol.

Yn ogystal â'r barcud prin, cofnodwyd gweld dros 170 math o adar ar y gors - gan gynnwys y boda; yr hebog llwydlas a'r curyll glas.

Mae darn o Lwybr yr Ystwyth - sydd i'w gwblhau ddiwedd Mehefin 2008 ac i gysylltu Tregaron ag Aberystwyth - ar agor ac yn rhedeg ar wely'r hen reilffordd wrth ymyl y gors. Mae'n bosibl cerdded y llwybr ar unrhyw adeg ac mae llwybrau cylch yn arwain allan i adeilad newydd y medrwch eistedd ynddo i wylio'r adar ar y warchodfa.

Enwog fab...

Ar Sgwâr Fawr Tregaron saif cofgolofn Henry Richard - un o feibion enwocaf y dref. Bu'n Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd - rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig.

Mynyddoedd y Cambria...

Dringa hen heol y porthmyn i fyny dros y bryniau uchel tuag at Abergwesyn neu Lanymddyfri. Mae'r hen heol yn cynnig siwrnai ag iddi olygfeydd bendigedig. Noder, fodd bynnag, bod yr heol yn gul iawn ac nid yw'n addas ond ar gyfer ceir modur neu faniau ysgafn (ni ddylid ceisio tynnu carafán drosti).

Yn Ffrwdargamddwr cewch ddewis rhwng gyrru ymlaen tuag at Abergwesyn, fyddai'n ei gwneud hi'n bosibl teithio o gwmpas llynnoedd Cwm Elan ac yn ôl i Dregaron, neu ffrydio tua'r dde am Lyn Brianne a Llanymddyfri. Ar y ffordd hon, medrech ddychwelyd i Dregaron drwy Lanbedr Pont Steffan.

Daw llawer o bobl i'r mynydd o bob cwr o Gymru, ar Suliau yn yr haf, er mwyn mynychu oedfaon yng Nghapel pellennig Soar y Mynydd, gan alw yng Nghanolfan Crefftau enwog Rhiannon yn Nhregaron ar y ffordd hwyrach.

Pysgota a cherdded...

Ewch i'r tudalennau gweithgareddau am fwy o fanylion ar bysgota, cerdded a beicio.

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.