TRESAITH...

Rhyfeddod pentref prydferth Tresaith yw'r afon Saith yn disgyn mewn rhaeadr yn syth dros y creigiau uchel at y tywod euraidd isod.

Tebyg yw mai 'Saeth' yw'r enw cywir ar yr afon ac mae 'Tresaeth' felly dylai enw'r pentref fod. Ta waeth, mae'n le bendigedig i gael llonydd o boenau'r byd!

Chwedl y saith...

Mae esboniad arall ar enw'r dreflan hon. Dywed chwedl am hanes brenin o'r Iwerddon oedd ganddo saith merch. 'Doedd y brenin ddim yn medru cadw llawer o drefn ar y tywysogesau ac, ar ôl eu bygwth llawer gwaith â chosb pe na fyddent yn ufuddhau i'w orchmynion, collodd y brenin ei dymer o'r diwedd a gorchymyn eu troi'n rhydd mewn cwch ar y môr mawr. Tywyswyd y saith i'r lan yng Nghymru ac yma ar arfordir Ceredigion bu iddynt gyfarfod â meibion saith fferm gyfagos, priodi a byw'n hapus byth wedyn. Dyna pam - yn ôl y chwedl - gelwir y lle "Tresaith"!

Arfordir godidog...

Mae Llwybr Arfordir Treftadaeth Ceredigion yn cysylltu Tresaith ag Aberporth cyfagos ac, ar lanw isel, mae modd cerdded wrth lan y môr tua'r gogledd i draethau euraidd Penbryn. Rheolir traethau Penbryn - y twyni cyfagos a'r dyffryn coediog tu hwnt i'r traeth - gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Llety...

Am fanylion llety yn yr ardal hon, ewch i'r dudalen llety.