Cerdded yng Ngheredigion...

Anodd fyddai dod o hyd i ardal sy'n cynnig y fath ystod o gyfleon cerdded a chewch yng Ngheredigion. Gallwch gerdded darnau o Lwybr Arfordir Ceredigion i fwynhau'r cyfleon gwych i wylio dolffiniaid, morloi, llamidyddion ac adar y môr; dilyn llwybrau gwyrddion dyffrynnoedd y Teifi, yr Aeron, Ystwyth a'r Rheidol; neu fentro i ucheldiroedd a choedwigoedd Mynyddoedd y Cambria i wylio'r barcud coch a'r boda llwyd uwchben.

LLWYBR YSTWYTH

Mae Llwybr Ystwyth yn cysylltu Aberystwyth, ar lan Bae Ceredigion, â Thregaron ym mhegwn gogleddol Dyffryn Teifi.

Mae darnau helaeth o Lwybr Ystwyth yn dilyn trywydd yr hen reilffordd arferai gysylltu Aberystwyth â Chaerfyrddin. Mae'r darnau hyn, ar y mwyaf, ar y gwastad ac yn arbennig o hwylus ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn a beicwyr yng nghwmni plant bach. Mae caniatâd i farchogaeth hefyd ar ddarnau helaeth o Lwybr Ystwyth ac, wrth gwrs, mae'r lôn yn gyfan gwbl addas ar gyfer cerddwyr.

Yn ogystal â chysylltu Dyffryn Teifi â Llwybr Arfordir Ceredigion mae Llwybr Ystwyth yn darparu trywydd yn ôl tua'r arfordir i gerddwyr sydd yn dewis dilyn y llwybr llinynnol rhwng y Borth â Phontrhydfendigaid (llwybr sydd yn galw ym Mhontarfynach, Cwm Ystwyth, Pontrhydygroes a Phontrhydfendigaid).

Cewch mwy o fanylion am Lwybr Ystwyth yma.

LLYFR CANLLAW - LLWYBR ARFORDIR CEREDIGION

Mae'r llyfr canllaw dwyieithog, 240 tudalen llawn lliw, ar gael drwy'r post oddi wrth Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion.

Cewch fanylion llawn am y gwasanaeth archebu llyfrau drwy'r post - ynghyd â ffeiliau PDF yn disgrifio'r llyfrau ac yn cynnig ffurflen archeb - isod.

Cewch fwy o fanylion am Lwybr Arfordir Ceredigion yma.

CŴN ANWES

Mae'r Cyngor Sir yn cynghori perchnogion cŵn anwes i gadw eu cŵn ar dennyn wrth ddilyn pob tramwyfa gyhoeddus yng Ngheredigion, i sicrhau nad yw'r ci anwes yn aflonnyddu anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt na defnyddwyr eraill y dramwyfa.

Dylid nodi'r cyngor isod parthed cŵn anwes ar hawliau tramwy caniataol ac wrth Gerdded mewn cwmni.

CERDDED MEWN CWMNI

Cliciwch yma am fwy o fanylion ar gyfleon cerdded mewn cwmni yng Ngheredigion

CYHOEDDIADAU I'W LAWRLWYTHO...

Isod cewch ystod eang o adnoddau y medrwch eu lawrlwytho.

Adnoddau...

Rhestr Cyhoeddiadau
Dogfen ar ffurf ffeil PDF sydd yn disgrifio cyhoeddiadau ar gerdded sydd i'w cael ar werth yng Nghanolfannau Croeso Ceredigion. Os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig medrwch hefyd archebu cyhoeddiadau drwy'r post, cewch ffurflen archeb ar ffurf PDF isod. Nodwch fod y ddogfen yn cyfeirio at lyfrau Cymraeg, Saesneg a dwy-ieithog - pan fo'r cyhoeddiad yn un Saesneg cewch fod y disgrifiad hefyd yn y Saesneg.
Ffurflen archebu drwy'r post
Nodwch nad yw y gwasanaeth hwn ar gael gogyfer â chyfeiriadau tu allan i'r Deyrnas Unedig.

TEITHIAU CYLCH...

* NEWYDD * TEITHIAU LLANDYSUL
Llandysul a Phont-Tyweli oedd yr ardal gyntaf yng Ngheredigion i gael statws Croeso i Gerddwyr. Felly mae wedi ymrwymo i gadw llwybrau troed ar agor a sicrhau fod busnesau lleol yn croesawi cerddwyr. Mae'r llyfryn hwn yn disgrifio wyth cylchdaith o gwmpas ardal Llandysul a Phont-Tyweli.
* NEWYDD * TEITHIAU TREGARON
Casgliad o saith cylchdaith yn ardal yr enwog Twm Siôn Cati. Mae'r teithiau yn eich tywys o gwmpas bro Cors Caron, i fannau diddorol ac adnabyddus, i Landdewi Brefi er enghraifft; i adfeilion abaty Ystrad Fflur ac i drigfan Sali Mali ym Mhentre Bach.
TEITHIAU BRO CARON: 1 - FFRWD AR GAMDDWR
Cylchdaith braf 19.3 cilomedr (12 milltir) ar heolydd cul a lonydd gwyrddion sy'n croesi ucheldir anghysbell nepell o Dregaron. Noder fod y lonydd yn croesi tir corsiog mewn nifer i fan. Mae'r gylchdaith hon yn addas ar gyfer marchogion a beicwyr sy'n defnyddio beic mynydd. Mae rhan sylweddol o'r gylchdaith hon ar heol galed ac mi fedrai hynny fod yn amhoblogaidd gyda cherddwyr. Fodd bynnag, mae'r gyfran o Nantymaen at yr aber rhwng yr afon Fechan a'r afon Groes yn cynnig golygfeydd bendigedig.
TEITHIAU BRO CARON: 2 - Y GARN FAWR
Defnyddia'r gylchdaith 15.3 cilomedr (9½ milltir) hon heolydd cefn gwlad a lonydd drwy'r goedwig cyn croesi rhostir agored i gyrraedd copa'r Garn Fawr cyn dychwelyd, yn gymharol serth, yn ôl i Dregaron. Mae'n addas ar gyfer marchogion a beicwyr sy'n defnyddio beic mynydd. Mae rhan sylweddol o'r gylchdaith hon ar heol galed ac mi fedrai hynny fod yn amhoblogaidd gyda cherddwyr. Mae'r olygfa o gopa'r Garn Fawr, fodd bynnag, yn werth ei gweld.
TEITHIAU BRO CARON: 3a - LLANGEITHO (taith gerdded)
Cylchdaith braf 27.3 cilomedr (17 milltir) ar heolydd cul, llwybrau a lonydd gwledig yn croesi tirwedd bryniog tua'r gorllewin o Dregaron gan gysylltu'r dref â Llangeitho a Llanddewi Brefi. Y trywydd ar gyfer cerddwyr a ddisgrifir yma - mae cyfrannau gwahanol ar gyfer marchogion a beicwyr a thaflen wahanol i'w disgrifio. Mae darnau o'r gylchdaith hon ar heolydd.
TEITHIAU BRO CARON: 3b - LLANGEITHO (ar gyfer marchogaeth a beicio)
Cylchdaith braf 27.3 cilomedr (17 milltir) ar heolydd cul, llwybrau a lonydd gwledig yn croesi tirwedd bryniog tua'r gorllewin o Dregaron gan gysylltu'r dref â Llangeitho a Llanddewi Brefi. Y trywydd ar gyfer merlota a beicio a ddisgrifir yma - mae cyfrannau gwahanol ar gyfer cerddwyr a thaflen wahanol i'w disgrifio. Mae darnau o'r gylchdaith hon ar heolydd.
TEITHIAU BRO CARON: 4 - LLANDDEWI BREFI
Cylchdaith 19.3 cilomedr (12 milltir) heriol gan ddefnyddio heolydd cul, lonydd trwy goedwigoedd a llwybrau dros rostir mynyddig. Mae dringo i gopa'r Garn Fawr yn her ond werth yr ymdrech ar gyfer y golygfeydd sy'n ymestyn hyd at mynyddoedd y Fan yn Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog. Mae'r daith hon yn addas ar gyfer marchogion a beicwyr sy'n defnyddio beic mynydd. Mae rhan sylweddol o'r gylchdaith hon ar heol galed ac mi fedrai hynny fod yn amhoblogaidd gyda cherddwyr.
TEITHIAU BRO CARON: 5 - DOITHIE A THŶ'N CORNEL
Cylchdaith 25.75 cilomedr (16 milltir) heriol sy'n dilyn heolydd cul, lonydd geirw a lonydd trwy'r goedwig mewn ucheldir unig. Mae'r daith hon yn addas ar gyfer marchogion a beicwyr sy'n defnyddio beic mynydd. Mae rhan sylweddol o'r gylchdaith hon ar heol galed ac mi fedrai hynny fod yn amhoblogaidd gyda cherddwyr. Fodd bynnag, mae'r gyfran o Soar y Mynydd yn un sy'n benigamp ac mae Lôn y Cambria yn dilyn y trywydd rhwng Tŷ'n Cornel a Nant y Maen.
TEITHIAU BRO CARON: 6 - DÔLGOCH
Cylchdaith 16 cilomedr (10 milltir) heriol sydd, gan fwyaf, yn dilyn heolydd cul mewn ucheldir unig. Mae'r gyfran o Hostel Dôlgoch i Lyn Brianne yn dilyn glan afon ar hyd llwybr gwlyb gyda thwmpathau gwair niferus. Mae modd osgoi y twmpathau trwy ddefnydd heol gul ar lan ddwyreiniol yr afon, ym Mhowys. Mae'r daith hon yn addas ar gyfer marchogion a beicwyr sy'n defnyddio beic mynydd neu hybryd. Mae rhan sylweddol o'r gylchdaith hon ar heol galed ac mi fedrai hynny fod yn amhoblogaidd gyda cherddwyr.
* NEWYDD *Y FFYNNON SANCTAIDD
Anelwch am adfeilion abaty Ystrad Fflur ond peidiwch â pharcio yno. Wrth nesáu at yr abaty trowch i'r dde ac yna i'r chwith cyn troi, gyda'r heol, yn ôl at y dde unwaith eto. Mae lle i ambell i gar modur barcio ym man picnic Comisiwn Coedwigaeth Cymru wrth y fynedfa i Bantyfedwen. O'r fan honno cerddwch yn syth ymlaen at ddiwedd yr heol galed ble mae arwydd sydd yn cynnig manylion am y llwybr. (Cewch gopi ohono yn y PDF y cysylltir â hi yma). Mae'n gylchdaith 2.5 km (1.5 milltir) ac, ar y ffordd yn ôl mae gofyn croesi'r afon ar gerrig sarn. Petai llif yn yr afon medrai hyn fod yn beryglus gan ofyn dilyn y trywydd yn ôl i'w gychwyn. Dywed Comisiwn Coedwigaeth Cymru fod angen lefel dda o ffitrwydd i ddilyn y gylchdaith hon. Gall y llwybr fod yn llithrig pan fo'n wlyb.

   
Cerdded Aber y Teifi
Casgliad o bum cylchdaith yn hyfrydwch ardal Aber y Teifi. Mae'r teithiau yn cynnwys profiad o Lwybr Arfordir Penfro, Llwybrau Arfordir Ceredigion, Gwarchodfa Natur Glannau'r Teifi ac Ardal Gadwraeth Arbennig yr Afon Teifi. Ymysg y safleoedd yr ymwelir â nhw y mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, adfeilion Abaty Llandudoch ac Adfeilion Castell Cilgerran.
LLWYBRAU CERDDED COEDWIG - Bwlch Nant yr Arian a Cheredigion
Cyhoeddiad Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae'r llyfryn dwyieithog hwn - ar ffurf ffeil PDF - yn disgirifio rhyw 17 o lwybrau ar diroedd y Cynulliad Cenedalethol yng Ngheredigion.
Cylchdaith Aberaeron - Henfynyw
Cylchdaith tua 3½ milltir (6km) sydd yn dilyn Llwybr Arfordir Ceredigion tua'r de o Aberaeron cyn troi at y tir mawr i gyfeiriad Henfynyw, man geni Dewi Sant. Mae ambell i ddringfa serth ar y gylchdaith hon.
Llwybrau cerdded a marchogaeth yn ardal Rhydlewis
Mae Rhydlewis yn gorwedd yn nyffryn Ceri ac yn cynnig rhwydwaith o lwybrau cerdded a marchogaeth - y gylchdaith hiraf yn mesur tua 8 milltir (13km).
Cylchdaith y Cei Newydd i Gwmtydu
Llwybr sydd yn cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Mae'r llwybr hiraf yn mesur tua 8 milltir (13km) ond gellir dilyn llwybrau byrach.
Y Cei Newydd - Cylchdaith Dylan Thomas
Cylchdaith sydd yn cynnig blas ar y bobl a'r mannau yn ardal y Cei Newydd roddodd ysbrydoliaeth i Dylan Thomas.
Aberporth - Tresaith
Llwybr arfordirol milltir a hanner (2km) a chyfeiriadau at lwybrau cerdded eraill yn ardal Aberporth a Thresaith - gan gynnwys darn o lwybr arfordirol o Aberporth sydd yn hwylus ar gfyer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Teithiau Cerdded o gwmpas Aberporth
Mae’r daith gylch hon yn dechrau ger Canolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mharcllyn ac yn mynd i gyfeiriad penrhyn arfordirol creigiog Penpeles.
Aberystwyth - Craig Glais
Cylchdaith o Aberystwyth sydd yn cynnig golygfeydd bendigedig dros Fae Ceredigion ac yn ymweld â choedwigoedd cyfagos. Tua 3½ milltir (6km).
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Cylchdaith Bontgoch
Cylchdaith o dua 7 milltir (11km) sy'n arwain o Bontgoch (Elerch).
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Cylchdaith Cwmsymlog
Cylchdaith o dua 5.25 milltir (8½km) sy'n arwain o Gwmsymlog.
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Cylchdaith Nant Yr Arian
Cylchdaith o dua 7 milltir(11km) sy'n arwain o Ganolfan Ymwelwyr Nant Yr Arian.
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Cylchdaith Pontarfynach
Cylchdaith o dua 6 milltir(10km) sy'n arwain o Bontarfynach.
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Cylchdaith Talybont
Cylchdaith o dua 6 milltir sy'n arwain o bentref Talybont.
Llwybrau Cerdded a Marchogaeth ardal Trefeurig
Casgliad o lwybrau cerdded a marchogaeth yn yr ucheldir o gwmpas Trefeurig yng ngogledd Ceredigion. 'Roedd yr ardal hon unwaith yn un o gadarnleoeodd y diwydiant mwyn yng Ngheredigion.
Llanbedr Pont Steffan - Llwybrau Alltgoch
Casgliad o lwybrau yn yr ardal tua'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan. Mae'r trywydd hrifa yn mesur tua 6 milltir (10km).
Teithiau Cerdded Ardal Llandysul
Cyhoeddiad gan Gyngor Sir Gâr sydd yn disgrifio teithiau cerdded yn ardal Llandysul a Phont Tyweli.
 

Llwybrau Llinynnol...

Llwybr Ystwyth
Mae'r llwybr yn cysylltu Aberystwyth â Thregaron ym mhegwn gogleddol Dyffryn Teifi.

Mae darnau helaeth o Lwybr Ystwyth yn dilyn trywydd yr hen reilffordd arferai gysylltu Aberystwyth â Chaerfyrddin. Mae'r darnau hyn, gan arfer, ar y gwastad ac yn arbennig o hwylus ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn a beicwyr yng nghwmni plant ieuanc iawn.

Mae caniatâd i farchogaeth ar ddarnau helaeth o Lwybr Ystwyth ac, wrth gwrs, mae'r lôn yn gyfan gwbl addas ar gyfer cerddwyr. Mae Llwybr Ystwyth yn cysylltu Dyffryn Teifi â Llwybr Arfordir Ceredigion ac yn darparu llwybr yn ôl i'r arfordir i gerddwyr fyddent yn dewis dilyn y llwybr llinynnol rhwng y Borth â Phontrhydfendigaid (gweler isod).

LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID (gan gysylltu hefyd â Llwybr Ystwyth)
O'r Borth, wrth ymyl y Warchodfa Natur Cenedlaethol a Gwarchodfa Biosffer Dyfi, mae'r llwybr hwn yn arwain heibio'r Warchodfa Natur Cenedlaethol ar Gors Goch Fochno i gyfeiriad Talybont cyn dringo i gyfeiriad Bontgoch a Chwmsymlog. Gan arwain trwy galon yr hen ardal mwyngloddio yn ucheldiroedd Ceredigion ma'r llwybr yn arwain ymlaen at Ganolfan Ymwelwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn Nant yr Arian gan alw yn Ystumtuen cyn disgyn i Gwm Rheidol a dringo eto i Bontarfynach.

O Bontarfynach mae'r llwybr yn dringo unwaith eto i ucheldiroedd mynyddoedd y Cambrian cyn disgyn eto i Gwm Ystwyth gan arwain trwy diroedd yr Hafod cyn cyrraedd Pontrhydygroes ac arwain ymlaen at Bontrhydfendigaid.

Tu hwnt i Bontrhydfendigaid, mae llwybr newydd i gysylltu â Llwybr Ystwyth ar Warchodfa Natur Cenedlaethol Cors Caron, sydd hefyd yn warchodfa RAMSAR. Cynigia'r ddolen gyswllt hon gyfle i ddychwelyd i gyfeiriad Aberystwyth ar Lwybr Ystwyth neu i fwrw ymlaen tua'r de i gyfeiriad Tregaron.

Yn ei gyfanrwydd, mae'r llwybr rhwng y Borth â Llwybr Ystwyth ger Pontrhydfendigaid yn mesur tua 65 cilomedr (40 milltir).

Nodwch, os gwelwch yn dda, bod darnau o'r llwybr hwn yn serth iawn a llawer i ddarn yn croesi ucheldiroedd anghysbell a phellennig. Gosodwyd gradd "A" ar dair o'r chwe chyfran, sydd yn gofyn am y gallu i gerdded ar dir garw am hyd at 6 awr gan gario ysgrepan ysgafn. Gosodwyd gradd "B" ar ddwy gyfran arall, sydd yn galw am y gallu i gerdded ar dir garw am hyd at 4 awr gan gario ysgrepan ysgafn. Gosodwyd gradd "C" ar y gyfran olaf, sydd yn galw am y gallu i gerdded ar dir garw am hyd at 2 awr gan gario ysgrepan ysgafn.

 
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 1: BORTH - TALYBONT

Llwybr llinynnol sy'n mesur 6.5 cilomedr (4 milltir) ddylai gymryd rhwng 1½ i 2 awr i'w gerdded. Mae'r llwybr ar y gwastad wrth ymyl Cors Goch Fochno gan ddringo bryniau cymharol isel a chroesi tir pori cyn cyrraedd coedwig a disgyn i bentref Talybont. Medrai mwyafrif y llwybr hwn fod yn addas at bob aelod o'r teulu. Graddiwyd y llwybr hwn "B Cymedrol" sy'n gofyn am y gallu i gerdded ar dir garw am hyd at 4 awr gan gario ysgrepan ysgafn
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 2: TALYBONT - NANT YR ARIAN

Trywydd llinynnol 14.5 cilomedr (9 milltir) ddylai gymryd rhwng 4 a 4½ awr i'w gerdded. Mae'r llwybr yn dilyn dyffrynnoedd coediog i ucheldiroedd mynyddig, serth mewn mannau, ac yn dilyn rhai lonydd cefn gwlad. Mae hon yn daith hir ac egnïol ar gyfer cerddwyr profiadol. Fe'i graddiwyd yn "A Caled" gan alw am allu cerdded ar dir garw am hyd at 6 awr gan gario ysgrepan ysgafn.
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 3: NANT YR ARIAN - PONTARFYNACH

Trywydd llinynnol 10 cilomedr (6 milltir), 4 awr. Mae hwn yn lwybr arall ar gyfer cerddwyr profiadol gan iddo groesi tiroedd pellennig yn yr ucheldiroedd, rhai ohonynt yn serth iawn o gwmpas Cwm Rheidol. Graddiwyd y daith hon "B Cymedrol" syn gofyn am allu cerdded ar dir garw am hyd at 4 awr gan gario ysgrepan ysgafn.
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 4: PONTARFYNACH - PONTRHYDYGROES

Mae'r gyfran hon yn mesur 18 cilomedr (11 milltir); 5½ awr. Golyga ddilyn llwybr ar dir garw, trwy goedwigoedd, ar elltydd serth ac ar lan afon. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer bobl ffit sydd yn gyfarwydd &acric; cherdded ucheldiroedd a dilyn trywydd ar dywydd garw. Graddiwyd y llwybr hwn "A Caled", mae'n gofyn am allu cerdded ar dir garw am hyd at 6 awr gan gario ysgrepan ysgafn.
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 5: PONTRHYDYGROES - PONTRHYDFENDIGAID

Mae'r gyfran hon yn mesur 13 cilomedr (8 milltir), 4 awr. Mae'n croesi ucheldiroedd anghysbell gan gynnig golygfeydd ysblennydd o adfeilion abaty Ystrad Fflur ac ucheldir Ceredigion. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer bobl ffit sydd yn gyfarwydd &acric; cherdded ucheldiroedd a dilyn trywydd ar dywydd garw. Graddiwyd y llwybr hwn "A Caled", mae'n gofyn am allu cerdded ar dir garw am hyd at 6 awr gan gario ysgrepan ysgafn.
LLWYBR Y BORTH I BONTRHYDFENDIGAID
CYFRAN 6: PONTRHYDFENDIGAID - LLWYBR YSTWYTH

Llwybr byr yw hwn, 2.5 cilomedr (1.6 milltir) ddylai gymryd llai nag awr. Mae'r trywydd yn gadael Pontrhydfendigaid ar locirc;n darmac sydd yn troi'n locirc;n garreg cyn croesi darn byr o dir corsiog i gyrraedd Llwybr Ystwyth. Dylai'r llwybr hwn fod yn addas ar gyfer mwyafrif aelodau'r teulu ac fe'i raddiwyd "C Hawdd" gan alw am allu cerdded ar dir garw am hyd at 2 awr gan gario ysgrepan ysgafn.

Wedi cyrraedd Llwybr Ystwyth mae dewis cerdded allan ar lwybrau priodol a ddarparwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i fwynhau gogoneddau'r warchodfa yn ogystal â cherdded i gyfeiriad Tregaron neu Aberystwyth. Cewch mwy o fanylion am Lwybr Ystwyth trwy glicio yma.

Mae'r ddolen gyswllt hon hefyd yn cynnig cyfle i bobl sydd yn dilyn Llwybr Ystwyth i droi i ffwrdd gan ymweld â Phontrhydfendigaid ac adfeilion Ystrad Fflur, yr abaty oedd unwaith yn San Steffan i Gymru. Claddwyd Dafydd ap Gwilym ym mynwent yr eglwys wrth ymyl yr adfeilion a chladdwyd nifer o Dywysogion Deheubarth yn nhiriogaeth y fynachlog. Mae adfeilion abaty Ystrad Fflur o dan ofal CADW.

Llwybr Dyffryn Aeron
Mae'r llwybr hwn yn dilyn Dyffryn Aeron o Aberaeron i Abermeurig - gan alw yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron - cyn croesi i Ddyffryn Teifi a chyrraedd Llanbedr Pont Steffan. Mae'r llwybr 21 milltir (34cm) yn dilyn llwybrau gwledig ynghyd â ffyrdd gwledig tawel.
Llwybr y Borth i Bontarfynach
O'r Borth, ar lan Bae Ceredigion gerllaw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, mae'r llwybr hwn yn arwain heibio i Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch Fochno cyn cyrraedd Talybont a dringo heibio Bontgoch a Chwmsymlog i gyfeiriad Canolfan Ymwelwyr â'r Goedwig - a man bwydo Barcutiaid Cochion - Nant Yr Arian. Â'r llwybr yn ei flaen i gyfeiriad Ystumtuen cyn disgyn i Gwm Rheidol a dringo eto i Bontarfynach. Mae hon yn daith 18 milltir (29cm).
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Llwybr Pontarfynach i Bontrhydygroes
O Bontarfynach mae'r llwybr yn dringo i ucheldiroedd mynyddoedd y Cambria cyn disgyn i hen ardal cloddio mwyn ac arian Cwm Ystwyth a chroesi tiroedd prydferth yr Hafod cyn cyrraedd Pontrhydygroes. Nodwch fod hon yn daith 6 milltir (10cm) sydd yn cynnwys aml i esgyniad a disgyniad serth iawn.
Cyfres "Ysbryd y Mwynwyr": Llwybr Pontrhydygroes i Bontrhydfendigaid
O Bontrhydygroes mae'r trywydd yn esgyn eto i ucheldiroedd mynyddoedd y Cambria cyn disgyn i Bontrhydfendigaid, gerllaw adfeilion abaty enwog Ystrad Fflur. Mae hon yn daith 8 milltir (13cm).
Taith Gerdded Cenarth i Gastellnewydd Emlyn
Cyhoeddiad gan Gyngor Sir Gâr sydd yn disgrifio taith gerdded yn Nyffryn Teifi sy'n cysylltu Cenarth â Chastellnewydd Emlyn.

CERDDED MEWN CWMNI

Mae sawl cangen o Gymdeithas y Cerddwyr (Ramblers' Association) a Chlwb Cerdded Crywdro Caron yn croesawu gwestai i ddilyn rhai o'u teithiau cerdded. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o rai amodau:

BWYD A DIOD:
Ar deithiau cerdded cymharol fyr, dylech ddod â byrbryd ynghyd â diod. Ar deithiau cerdded mwy hir, dewch â digon o fwyd a diod ar gyfer y diwrnod. Mae'n debyg y bydd darnau gwlyb o dir a thir anwastad ar bob taith felly dylech wisgo esgidiau addas - esgidiau cryfion neu esgidiau cerdded pwrpasol. Mae rhaid dod â chot ysgafn rhag glaw, medrwch ei chario mewn sach gefn ysgafn. Nodwch y gall arweinwyr teithiau cerdded wrthod cyfle i ddilyn y daith i berson sydd yn ymddangos i'r arweinydd fel na bai ef neu hi naill ai yn ymddangos yn ddigon ffit neu ag offer/gwisg gymwys ar gyfer y daith. Pe byddai gennych unrhyw amheuaeth pa un ai bydd un o'r teithiau yn gymwys ar eich cyfer yna cysylltwch â'r arweinydd priodol ymlaen llaw.

CŴN ANWES:
Mae'n debygol y bydd pob un o'r teithiau cerdded yn croesi tir ble bydd defaid yn pori felly nid yw'n arferol rhoi'r cyfle i bobl ddod â chŵn anwes gyda nhw.

MYNEDIAD AT DEITHIAU AR GYFER GWESTAI NAD SY'N AELODAU:
Gan amlaf croesawir gwestai i ddilyn teithiau cerdded Cymdeithas y Cerddwyr a Chlwb Cerdded Crwydro Caron. Sylwch, fodd bynnag, bod Cymdeithas y Cerddwyr yn disgwyl i unigolion ymuno â'r gymdeithas ar ôl dilyn tair taith fel gwestai. Mae Clwb Cerdded Crwydro Caron yn codi tua £2.00 y daith, o ran tâl, ar westai ac yn disgwyl i bobl ymuno â'r clwb ar ôl dilyn dwy daith. Mae'r clwb hefyd yn disgwyl bod gwestai yn talu eu cyfran o unrhyw gostau teithio.

CYSYLLTU YMLAEN LLAW:
Mae amgylchiadau ym medru newid yn ddisymwth gan greu angen newid trefniadau neu ohirio taith, dylech bob amser gysylltu â'r person cyswllt priodol ymlaen llaw.

MAE CANGHENNAU CYMDEITHAS Y CERDDWYR A CHLWB CERDDED CRWYDRO CARON YN DWYN SYLW AT Y FFAITH NA FEDRANT GAEL EU DAL YN GYFRIFOL AM UNRHYW NIWED NEU GOLLED GALL DDEILLIO O DDILYN UN O'U TEITHIAU CERDDED.

Noder bod sawl un o'r mudiadau cyfeirir atynt uchod hefyd yn trefnu teithiau cerdded mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, medrwch ganfod eu rhaglenni llawn ar y gwefannau isod:

Mae cangen Cymdeithas y Cerddwyr Aberystwyth yn categoreiddio teithiau cerdded fel â ganlyn:

A: Caled: Gwell fyddai bod gennych brofiad o gerdded mynyddoedd. Bydd y daith yn golygu tipyn golew o ddringo ac esgyn serth. Ni ddylech ystyried y pelleter ddangosir yn y disgrifiad fel mesur o'r ymdrech sydd ei angen i gwblhau'r daith.

B: Taith gerdded ganolig: Gall fod angen ambell i ddringo neu esgyn serth ond nid am gyfnodau hirion.

C:Taith gerdded ar dir gwastad neu gymharol gwastad.

Ewch i'r dudalen digwyddiadau am fanylion rhaglenni'r cymdeithasau cerdded yng Ngheredigion.

MYNEDIAD CANIATAOL

Cynlluniau amaethyddol ac amgylcheddol o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw 'Tir Cymen' a 'Tir Gofal'. O dan y cynlluniau hyn mae amaethwyr yn medru dod i gytundeb deg blwydd i reoli ffermydd mewn ffyrdd amgylcheddol cyfeillgar a gall hynny gynnwys cynnig mynediad i'r cyhoedd ar lwybrau caniataol mewn rhai ardaloedd. Bydd pob llwybr o'r fath wedi ei arwyddo'n eglur.

Ydy llwybrau caniataol o'r fath ar agor gydol y flwyddyn?
Gall fod yna rhesymau amylcheddol neu amaethyddol dilys dros gau llwybr canaiataol ar ambell i adeg ond mae gofyn fod y Swyddog Prosiect cyfrifol o Gyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cael gwybod am y dymuniad o leiaf chwech wythnos ymlaen llaw, onibai fod amgylchiadau eithriadol yn codi. Ni chaniatier cau llwybrau caniataol Tir Cymen neu Tir Gofal am fwy na 10 diwrnod y flwyddyn ond nid ar wyliau cyhoeddus. Pan fo Swyddog Prosiect wedi cytuno cais i gau llwybr caniataol rahid yw bod yr amaethwr yn gosod arwyddion esboniadol i fyny wrth bob un pwynt mynediad at y llwybr o leaif pedwar wythnos cyn dyddiad cychwyn cau'r llwybr.

Beth am fynd a ci anwes?
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynghori dylid cadw cŵn anwes ar dennyn byr bob amser pan fyddoch yn dilyn llwybr mynediad caniataol. Gall cŵn anwes gael eu gwahardd yn gyfan gwbl ar rai adegau o'r flwyddyn.

Yn gyffredinol, mi fedrwch fynd a'ch ci anwes gyda chi os nad oes gwaharddiad penodol. Pe byddech mewn unrhyw benbleth yna mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynghori cadw'ch ci ar dennyn fel na fyddo'r ci yn debygol o niweidio neu godi ofn ar anifeiliad fferm, adar yn nythu neu greaduriaid gwyllt.

Beth na fedrwch chi ei wneud?
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynghori na fedrwch chi wersylla, feicio, farchogaeth ceffyl, gyrru neu reidio unrhyw fath o gerbyd heblaw cerbyd person ag anabledd, heb ganiatâd perchennog neu ddeiliad y tir.

Ymwelwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru am fwy o fanylion ar fynediad caniataol